Cofnodion y cyfarfod diwethaf

7 Hydref 2014

12:30-13:15

Ystafell gynadledda 21, Tŷ Hywel

 

 

YN BRESENNOL:

 

David Rees AC (Cadeirydd)

DR

Aberafan (Llafur Cymru)

Keith Davies AC

KeD

Llanelli (Llafur Cymru)

Rebecca Evans AC

RE

Canolbarth a Gorllewin Cymru (Llafur Cymru)

Bethan Jenkins AC

BJ

Gorllewin De Cymru (Plaid Cymru)

Eluned Parrot AC

EP

Canol De Cymru (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru)

 

Rhys Davies

RD

Staff cymorth Christine Chapman

Thom Hollick

TH

Staff cymorth Jenny Rathbone

Angharad Lewis

AL

Staff cymorth Jocelyn Davies

Colin Palfrey

CP

Staff cymorth Lindsay Whittle

Claire Stowell

CS

Staff cymorth Rebecca Evans

 

Katie Dalton (ysgrifennyddy)

KaD

Gofal

Suzanne Duvall

SD

Diverse Cymru

Rhiannon Hedge

RhH

Mind Cymru

Ewan Hilton

EH

Gofal

Menna Jones

MJ

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (anhwylderau bwyta)

Anna Lewis

AL

British Assoc. of Counselling and Psychotherapy

Amy Lloyd

AmL

Samariaid

Peter Martin

PM

Hafal

Janet Pardue-Wood

JPW

Mind Cymru

Manel Tippett

MT

Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (Cymru)

Sue Wigmore

SW

Bipolar UK

 

Junaid Iqbal

JI

Fforwm cenedlaethol gofalwyr a defnyddwyr gwasanaethau

Alan Meudell

AM

Fforwm cenedlaethol gofalwyr a defnyddwyr gwasanaethau


 

CPGMH/NAW4/30- Croeso ac ymddiheuriadau

Camau i’w cymryd

Croesawodd DR bawb i’r gyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Iechyd Meddwl.

Ymddiheuriadau:

·     David Melding AC

·     Ruth Coombs (Mind Cymru)

·     David Crepaz Keay (Sefydliad Iechyd Meddwl)

·     Tony Smith (Journeys)

 

CPGMH/NAW4/31- Ethol Cadeirydd newydd

Camau i’w cymryd

Esboniodd KaD fod David Rees AC wedi cynnig ei hun ar gyfer swydd Cadeirydd nesaf y Grŵp Trawsbleidiol ar Iechyd Meddwl a’i  fod wedi cael cefnogaeth Aelodau eraill. Nid oedd unrhyw Aelod Cynulliad arall wedi cynnig eu henwau ar gyfer y swydd.

Gofynnwyd i aelodau'r Grŵp Trawsbleidiol ddangos eu cefnogaeth dros ethol David Rees AC yn Gadeirydd newydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Iechyd Meddwl. Cafwyd pleidlais unfrydol o blaid y cynnig ac etholwyd David Rees yn Gadeirydd.

Diolchodd DR i’r Aelodau am eu cefnogaeth ac awgrymodd fod y grŵp yn ysgrifennu at Rebecca Evans i ddiolch iddi am ei chyfraniad i'r Grŵp Trawsbleidiol fel y Cadeirydd blaenorol.

 

CPGMH/NAW4/32- Law yn Llaw at Iechyd Meddwl: barn defnyddwyr gwasanaethau a’u gofalwyr

Camau i’w cymryd

Croesawodd DR  JI a'r AM i'r grŵp trawsbleidiol, diolchodd iddynt am ddod a’u gwahodd i ddechrau eu cyflwyniad.

·     Trosolwg ar Fforwm Cenedlaethol  Defnyddwyr Gwasanaethau a Gofalwyr (Y Fforwm)

Gofynnodd Llywodraeth Cymru i Gynghrair Iechyd Meddwl Cymru (CIMC)  ddewis dau ddefnyddiwr gwasanaeth a dau ofalwr i eistedd ar Fwrdd Partneriaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl. Nid oedd CIMC, defnyddwyr gwasanaethau na’u gofalwyr yn awyddus i weld y bobl arferol yn cael eu dewis ac roeddent am weld strwythur a fyddai’n helpu defnyddwyr gwasanaethau a’u gofalwyr ddod yn aelodau o’r Bwrdd Partneriaeth ac i’r gwrthwyneb. Mae’r Fforwm  yn cynnwys aelodau sy’n cynrychioli defnyddwyr gwasanaethau  a gofalwyr ar bob un o’r byrddau partneriaeth lleol, a deg o ‘gynrychiolwyr cenedlaethol’ sydd i fod i ofalu am amrywiaeth, o ran nodweddion gwarchodedig neu wasanaethau penodol.

 ·     Problemau sy'n wynebu Fforwm Cenedlaethol  Defnyddwyr Gwasanaethau a Gofalwyr

Mae’r Fforwm wedi bod yn weithredol ers tua dwy flynedd. Mae wedi dod ymhell ond mae problemau i’w datrys o hyd.

Adnoddau: Caiff defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr eu  hariannu i  fynychu cyfarfodydd y Fforwm dair gwaith y flwyddyn ond ni chânt eu hariannu i gymryd rhan mewn gweithgareddau y tu allan i'r cyfarfodydd hyn.

Amrywiaeth: Mae’r mwyafrif yn wyn. Mae’n bosibl nad yw nodweddion gwarchodedig eraill wedi’u cynrychioli’n ddigonol. Mae rhagor o waith i'w wneud eto i sicrhau amrywiaeth ar y Fforwm. Mae’n ddefnyddiol cael ‘cynrychiolwyr cenedlaethol' i gynyddu amrywiaeth ond ni ddylem orfod dibynnu ar y rhain - dylai cynrychiolwyr lleol gynrychioli amrywiaeth eu hardal leol.

Agenda: Ar hyn o bryd, mae’r agenda’n cael ei lywio gan ganlyniadau Law yn Llaw ar Iechyd Meddwl / Llywodraeth Cymru. Gobeithio yn y dyfodol y gall defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr ddechrau gosod yr agenda.

Rhyngweithio ar lawr gwlad: Mae angen gwneud rhagor i  ryngweithio’n lleol ar lawr gwlad. Mae rhai Byrddau Iechyd Lleol wedi defnyddio’u hadnoddau i sefydlu strwythurau a threuliau ar gyfer y cynrychiolwyr lleol – sy'n bwysig – ond mae hefyd angen sicrhau bod modd ymgynghori ac ymgysylltu â phobl eraill sy'n defnyddio gwasanaethau lleol ond nad ydynt yn rhan o’r strwythurau cynrychioliadol ffurfiol.

Cymorth i gynrychiolwyr defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr: Gall yr holl waith papur a’r 'jargon' fod yn fwrn i rai defnyddwyr gwasanaethau a gofalwr, nad ydynt wedi arfer bod yn aelodau o fwrdd. Mae'n bwysig nad cynrychiolwyr symbolaidd yn unig yw’r rhai sy’n cynrychioli defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr a rhaid sicrhau eu bod yn cael cymorth priodol i gymryd rhan lawn yn y cyfarfodydd.

CAMHS: Nid oes unrhyw gynrychiolaeth ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl. Mae grŵp ar wahân yn bwydo materion CAMHS i waith Law yn Llaw at Iechyd Meddwl ond nid oes neb ar y Fforwm yn cynrychioli’r grŵp hwn. Corff cymharol ifanc yw’r Fforwm ac mae’n gobeithio gwella cysylltiadau â CAMHS.

 

·     Problemau sy'n wynebu Law yn Llaw at Iechyd Meddwl

Camau i’w cymryd : Pan fydd NPB yn craffu ar gynllun cyflenwi Law yn Llaw at Iechyd Meddwl,  mae rhai camau gweithredu yn cael eu dynodi’n ‘wyrdd' pan fydd proses  wedi dechrau - yn hytrach nag ar ôl sicrhau canlyniad. Er enghraifft: wrth ystyried sut i’w gwneud yn haws cael therapïau seicolegol, sefydlwyd gweithgor. O ganlyniad, dynodwyd y cam gweithredu hwn yn wyrdd, er nad oedd newid yn y canlyniadau. Mae angen i'r NPB ganolbwyntio mwy ar ganlyniadau yn eu hadroddiadau. Er enghraifft: ar hyn o bryd, mae’r Byrddau Iechyd yn cyflwyno adroddiadau ar nifer y cynlluniau gofal a triniaeth sydd ar waith yn hytrach na’u safon - ond mae’r safon a’r effaith ar unigolion yn bwysicach.

·     Problemau sy'n wynebu'r Mesur Iechyd Meddwl

Caiff ei gydnabod bod angen i’r Mesur gael cyfle i ymwreiddio. Fodd bynnag, daw adeg pan fydd yn rhaid i wasanaethau a chanlyniadau wella.

Rhyngweithio rhwng meddygon teulu a gwasanaethau eraill: Mae angen i hyn wella gan fod defnyddwyr gwasanaethau’n cael eu dal rhwng gwahanol wasanaethau.

Ateb posibl: gwell hyfforddiant i feddygon teulu. Mae angen prynu gwasanaeth gweithwyr iechyd proffesiynol. Angen cynnig triniaethau gwahanol i feddyginiaeth.

 

Gofynnodd Aelodau'r Cynulliad sut y gallent helpu i ymdrin â rhai o'r problemau hyn. Awgrymodd aelodau CIMC y gallai Aelodau'r Cynulliad holi'r Gweinidog Iechyd ynghylch rhai o'r materion a godwyd yn y drafodaeth hon.

 

CPGMH/NAW4/33 - cofnodion y cyfarfod diwethaf

Camau i’w cymryd

CYMERADWYWYD

Cofnodion y cyfarfod diwethaf.

 

CPGMH/NAW4/34 - camau a gymerwyd ers y cyfarfod diwethaf

Camau i’w cymryd

KaD i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r grŵp am y camau a gymerwyd ers y cyfarfod diwethaf.

 

·    CPGMH/NAW4/24 – darparu therapïau seicolegol yng Nghymru a sicrhau mynediad atynt

CAM I’W GYMRYD: RE i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch darparu therapïau seicolegol a mynediad atynt.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: gohiriwyd y llythyr gan nad oes gan y Grŵp Trawsbleidiol gadeirydd ers i KaD gael i ddyrchafu’n Ddirprwy Weinidog. Gellir bwrw ymlaen â’r mater yn awr ar ôl ethol DR yn Gadeirydd. Bydd KaD yn cysylltu â’r rhanddeiliaid perthnasol ac yn drafftio'r llythyr i'w anfon gyda chymeradwyaeth DR.

 

·    CPGMH/NAW4/12- Law yn Llaw at Iechyd Meddwl

CAM I’W GYMRYD: CIMC i drafod Adroddiad Blynyddol Law yn Llaw at Iechyd Meddwl ac i  gynhyrchu papur briffio i Aelodau'r Cynulliad.

CAM I’W GYMRYD: JI i gyflwyno’r llythyrau i'r Fforwm Cenedlaethol Defnyddwyr Gwasanaethau a Gofalwyr a gofyn am eu barn am ymgysylltiad defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr ar lefel y byrddau iechyd lleol.

JI i adrodd yn ôl yn y dyfodol mewn cyfarfod o’r grŵp trawsbleidiol.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Roedd y cyflwyniad a'r drafodaeth ddilynol dan arweiniad JI wedi'u trefnu mewn ymateb i'r ddau gam gweithredu hyn a chredir ei bod yn ffordd well o lawer o gyflwyno barn defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr am roi cynllun Law yn Llaw at Iechyd Meddwl ar waith a chynnwys defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn y gwaith.

 

CPGMH/NAW4/35 - Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol

Camau i’w cymryd

·     Adroddiad blynyddol Law yn Llaw at Iechyd Meddwl

Esboniodd EH fod adroddiad blynyddol nesaf Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn cael ei ysgrifennu ar hyn o bryd ac y caiff ei gyhoeddi fis Tachwedd/Rhagfyr. Mae Sian Richards (Prif Swyddog Strategaeth Llywodraeth Cymru) am i'r adroddiadau blynyddol gael eu paratoi ar y cyd â defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn lleol ac yn genedlaethol.

Mae Cynghrair Cymru ar gyfer Iechyd Meddwl (CIMC) yn gobeithio y bydd yr adroddiad blynyddol eleni yn fwy cytbwys o ran yr hyn a gyflawnwyd a’r heriau - roedd CIMC, defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn teimlo bod adroddiad blynyddol y llynedd yn rhoi darlun llawer rhy addawol o’r sefyllfa.

Mae CIMC wedi cyfrannu at y cynnwys a'r blaenoriaethau gan gynnwys:

  Yr angen i fesur canlyniadau.

  Cynlluniau gofal a thriniaeth – Mae'r ystadegau’n dangos bod 90% o bobl wedi cael cynllun ond nid ydym yn gwybod a ydynt yn newid bywydau er gwell

 

·     Adolygiad o’r broses o neilltuo arian ar gyfer iechyd meddwl

EH: Rydym yn aros i glywed pwy fydd yn cynnal adolygiad Llywodraeth Cymru o’r broses o glustnodi arian ar gyfer iechyd meddwl. Mae CIMC yn croesawu’r penderfyniad i barhau i glustnodi arian ar gyfer iechyd meddwl ond roedd adroddiad gan Hafal yn ddiweddar yn nodi diffyg yn y gwariant. Dylai’r adolygiad gymharu gwariant â’r canlyniadau, gan y gall rhai gwasanaethau costus fod o safon isel a gall eu canlyniadau i unigolion fod yn wael.

PM: Dylai’r adolygiad ystyried y pethau sylfaenol. Beth oedd nod y penderfyniad i glustnodi arian? A lwyddwyd i gyflawni’r nod hwnnw? Pa wahaniaeth a wnaeth?

DR: Gallwn godi’r pwynt gyda’r Gweinidog yn ystod sesiwn craffu ar y gyllideb.

BJ: Roedd ganddi ddiddordeb ym marn y trydydd sector am leihau cyllid i elusennau tra bo gwasanaethau dan bwysau enfawr. Roedd yn poeni bod pobl yn disgyn drwy'r bwlch a bod rhestrau aros hir am wasanaethau’r GIG a gwasanaethau’r trydydd sector.

JI: O safbwynt gofalwyr, mae sefydliadau yn cael eu cwtogi. Mae gwasanaethau’n gostwng ond mae galw’n cynyddu. Angen i’r gwasanaethau statudol osgoi ymateb yn ddifeddwl – yn hytrach, mae angen iddynt eistedd gyda'r trydydd sector a chynllunio gyda’i gilydd.

DR: A yw’r trydydd sector yn cymryd rhan yn y trafodaethau cyn neu ar ôl cyhoeddi'r toriadau?

EH: Ychydig o'r ddau. Mae'n well os gallwn gynnal trafodaethau ymlaen llaw. Mae rhai yn gwneud toriadau mympwyol. Mae'n anoddach i'r cyrff llai yn y trydydd sector barhau. Mae angen inni gofio bod Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn berthnasol i wahanol rannau o’r Cabinet. Mae’n ymwneud nid dim ond ag iechyd, ond hefyd am ariannu rhaglenni fel Cefnogi Pobl sy’n wynebu gostyngiad o 7.4%.

 

CPGMH/NAW4/36 - dyddiadau cyfarfodydd yn y dyfodol

Camau i’w cymryd

Cadarnhaodd KaD y cynhelir y cyfarfod nesaf ar ôl toriad y Nadolig. Bydd angen i DR gytuno ar y dyddiadau cyn eu dosbarthu i’r holl aelodau.

 

Diolchodd DR i bawb am eu presenoldeb a diolchodd i JI ac AM unwaith eto am eu cyflwyniad diddorol ac addysgiadol iawn.

Cynigiodd JI ddod yn ôl y flwyddyn nesaf i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am hynt Fforwm Cenedlaethol Defnyddwyr Gwasanaethau a Gofalwyr a'r hyn sy’n mynd rhagddo o ran rhoi Law yn Llaw at Iechyd Meddwl ar waith.